
Pecyn deniadol yn cynnwys:
Madarch Shiitake sych – madarch anhygoel! Maethlon, blasus, cigog (h.y. sydd ddim yn diflannu i ddim wrth eu coginio). Mae’r madarch yma’n cadw eu siâp a’i maint yn dda wrth goginio. Mae madarch Shiitake yn berffaith ar gyfer stecen, caserol, pryd pasta, risoto, stir-fry. Ewch i’n adran blog am ysbrydiolaeth madarchlyd!
Powdr madarch Shiitake – disgrifiwyd y cynnyrch madarch hwn fel “aur byw” gan y cogydd Chris Roberts! Mae blas madarch Shiitake yn gryf ac yn gweddu’n berffaith i ychwanegu haen o flas madarch i brydau amrywiol. Yn berffaith fel ‘marinade’ i gigoedd (stecen) ac yn ychwanegiad gwych i stiw madarch, cawl neu gaserol.