Hydref 2025- Pam cymaint o Ffyngau eleni?

Hydref 2025- Pam cymaint o Ffyngau eleni?


Y mae Hydref eleni wedi bod yn gynhyrchiol iawn o ran ffyngau a madarch, tybed beth sydd yn cyfrif am hyn?
Nid yn unig bod nifer y ffyngau yn doreithiol and mae y tymor wedi ymestyn hefyd gan
gychwyn yn gynnar tua Mis Gorffennaf ac yn parhau I mewn I Dachwedd.
Yn fras dylanwadau tywydd sydd tu ol I hyn , a newidiadau yn yr hinsawdd yn gyffredinol.

Er mwyn ffrwytho , sef creu y madarch gweledol y mae yn rhaid I gyfres o bethau ddigwydd.

Yn gyntaf gwanwyn cymharol gynnes a sych er mwyn I’r mycelium dyfu a chryfhau trwy hel maeth o’r pridd, ac fe gafwyd cyfnod felly y gwanwyn diwethaf.

Wedyn y mae angen rhyw fath o sioc I annog y mycelium I freu y fadarchen , fel arfer newid yn yr hinsawdd sef oeri a mwy o leithder, ac fe gafwyd cyfnodau fel hyn o ddiwedd y gwanwyn a thrwy’r haf gan wneud I’r mycelium feddwl bod y gaeaf ar ddod.
Felly dyma’r ffyngau yn ffrwytho trwy’r haf.

Yn drydydd y mae yr Hydref hyd yma wedi bod yn fwynach nac arfer ac yn gyffredinol y mae y barrug a’r rhew cyntaf yn rhoi stop ar y ffrwytho, ond hyd yma ni chafwyd hyn ac y mae’r madarch yn parhau I ymddangos.

Yn ogystal y mae ffenomemnon arall wedi digwydd eleni ym myd natur sef blwyddyn “Mast”. Dyma flynyddoedd achlysurol ond rheolaidd pan mae y coed yn creu nifer fawr o gnau a hadau fel dull o ddiogelu goroesiad I’r genhedlaeth nesaf . Y mae peth tystiolaeth bod gan perthynas rhwng y mycelium a gwreiddiau’r coed yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd hyn sydd mae’n debyg yn darparu mwy o faeth I’r coed I gynhyrchu cnau a ffrwythau.
Tydi natur yn rhyfeddol!!


Back to blog