Gwefan newydd!

Croeso i'n gwefan newydd! Rydym yn falch iawn o'n cynnyrch amrywiol - madarch i bawb o bobl y byd! Dywedir fod gan fadarch rinweddau gwerth-chweil sy'n gyfraniad pwysig i'n deiet. Oes wir! Pwysicach fyth yw'r blas yn ein barn. Wyddoch chi i ni ennill gwobr mudiad 'Bwyd Araf Cymru' (Slow Food) yn 2020? Un pluen arall yn ein het gan ein bod wedi ennill llu o wobrau (Gwir Flas ac eraill) ar hyd y blynyddoedd. Ac mae 'Madarch Cymru' wedi esblygu o'r cwmni gwreiddiol sef 'Ardd Fadarch Eryri' gyda'r gwreiddiau yn y mynyddoedd yr un mor ddwfn ag erioed. Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r madarch (a'r wefan newydd)!
Cymraeg cy