Ein stori
Madarch, madarch, madarch! Madarch yw (bron) unig gynhwysyn siop ‘Madarch Cymru’ felly gallech ddweud ein bod wedi gwirioni gyda ffwngi!
Madarch ffresh, madarch sych, madarch wedi eu powdro. ‘Does dim diwedd ar ein syniadau madarchlyd!
Dechreuwyd y cwmni madarch 15 mlynedd a mwy yn ôl gan – Cynan a June – ar ddaliad lleiaf yr ‘Ymddiriedolaeth Genedlaethol’ yn Nanmor, Gwynedd. Erbyn heddiw, mae Arwyn a Gwenllian wedi ymuno â nhw yn y fenter fadarch gan dyfu madarch ar eu fferm ‘Coedtalog’ yn Llanerfyl, Powys.
Tyfir y madarch ar ddau safle (a phan ar gael, eir ati i hel madarch gwyllt hefyd) gan ffafrio bêls madarch derw o Ben Llyn. Mae’r madarch wrth eu boddau’n tyfu mewn awyrgylch tywyll, llaith a chynnes.
Ni ddefnyddir unrhyw gemegolion na phla-laddwyr ar y madarch. Caiff y madarch eu cynaeafu â llaw a’u trin (h.y. eu cymoni) gyda llaw hefyd. Caiff y madarch eu sychu mewn sychwyr ar y safle a’u cymysgu gyda gwahanol flasau a pherlysiau i greu’r powdrau neu’r rhinflasau.
Defnyddiwch y madarch mewn stiw, risoto, pryd o fwyd pasta, stir-fry, pei ffilo. Defnyddiwch y powdr madarch mewn cawl, caserol, fel ‘marinade’ i gig neu bysgodyn neu lysiau ar farbeciw...mae’r opsiynau madarchlyd yn ddi-ben-draw! Ewch i’n adran blog am ysbrydoliaeth madarch neu dilynwch hanesion y madarch ar ein cyfrifon Trydar a Facebook.
Mae’n madarch (yn eu gwahanol ffurfiau) wedi ennill sawl gwobr ar hyd y blynyddoedd: o sêr aur “Great Taste” i wobrau “Fine Farm Foods Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Mae’n madarch wedi ymddangos ar nifer o raglenni radio a theledu ar S4C, Radio Cymru, BBC ac ITV megis “Bwyd Epic Chris “, Hairy Bikers, Countryfile a Coast and Country.
Ein egwyddorion fel cwmni tyfu madarch yw:
- I lynu at egwyddorion naturiolaidd gan osgoi cemegolion a phla-laddwyr
- I arddel awyrgylch iach, saff gyda hylendid yn flaenoriaeth
- I arddel y Gymraeg
- I ddefnyddio cadwyni cyflenwi mor lleol â sy’n bosib ac i gefnogi economi Cymru ble’n bosib
- I gynaeafu a thrin y madarch â llaw
- I brofi ein cynnyrch yn rheolaidd er mwyn sicrhau ansawdd a maethlonrwydd y cynnyrch
- I beidio cynnwys alergeddau yn y cynnyrch
- I leihau y defnydd o blastig
- I gynnig amodau a thelerau gweithio blaengar a theg i’n staff.