Pwy ydi pwy yn 'Madarch Cymru'?

Dechreuwyd y cwmni madarch 15 mlynedd a mwy yn ôl gan – Cynan (sydd yn y llun) a June – ar ddaliad lleiaf  yr ‘Ymddiriedolaeth Genedlaethol’ yn Nanmor, Gwynedd. Erbyn heddiw, mae Arwyn a Gwenllian wedi ymuno â nhw yn y fenter fadarch gan dyfu madarch ar eu fferm ‘Coedtalog’ yn Llanerfyl, Powys.

Tyfir y madarch ar ddau safle (a phan ar gael, eir ati i hel madarch gwyllt hefyd) gan ffafrio bêls madarch derw o Ben Llyn. Mae’r madarch wrth eu boddau’n tyfu mewn awyrgylch tywyll, llaith a chynnes.

Ni ddefnyddir unrhyw gemegolion na phla-laddwyr ar y madarch. Caiff y madarch eu cynaeafu â llaw a’u trin (h.y. eu cymoni) gyda llaw hefyd. Caiff y madarch eu sychu mewn sychwyr ar y safle a’u cymysgu gyda gwahanol flasau a pherlysiau i greu’r powdrau neu’r rhinflasau.

Cymraeg cy