Shiitake – Pam eu tyfu? Beth yw ystyr yr enw; ac ble yn y byd y maent yn dod?

Shiitake – Pam eu tyfu? Beth yw ystyr yr enw; ac ble yn y byd y maent yn dod?

Y mae Madarch Cymru yn tyfu tri math o fadarch gourmet , Mwng y Llew , Wystrys y Coed a Shiitake , a Shiitake oedd y madarch cyntaf I ni eu tyfu pan gychwynwyd y busnes 20 mlynedd yn ol.

Ond pam Shiitake, a beth ydy hanes y fadarchen arbenig hon?

Shiitake yw un o’r madarch bwytadwy a ellir ei dyfu mwyaf poblogaidd yn y byd , yn cyfrif am tua 25% o holl fadarch a gynhyrchir yn y byd yn flynyddol. Y mae trigolion y Dwyrain pell wedi bod yn cynhyrchu a bwyta Shiitake ers canrifoedd lawer (1209 yw y cofnod cyntaf yn Tseina) ac y mae hi yn cael ei chyfrif yn un o ddanteithion gorau a mwyaf llesol yn Tseina, Siapan a’r gwledydd cyfagos ble y mai yn tyfu yn naturiol.

Ers cychwyn y 2000’au fe welwyd twf yn y gofyn am Shiitake wrth I raglenni a chogyddion teledu eu defnyddio a’u brolio yn rheolaidd. Yn ogystal gan bod strwythur y fadarchen yn ymdebygu I gig , fe ddaeth yn ffefryn gan lysieuwyr a bwytwyr  figan ac y mae y farchnad yma yn dal I dyfu.

Dyna rhai o brif rhesymau pam I ni gychwyn hefo Shiitake  gan ddefnyddio system tyfu a ddatblygwyd yn wreiddiol gan gwmni o orllewin Cymru yn yr 1990 au ac a brynwyd gan Madarch Cymru yn ddiweddarach.

Tipyn o ffeithiau am y Shiitake rwan, neu Lentinula edodes I roi ei henw gwyddonol iddi . Gair Siapaneaidd yw Shiitake , gair cyfansawdd yn cyplysu “Shii “ sef coed a”Take” sef madarch. Felly madarch coed yw Shiitake . Mae’n siwr bod rhai ohonoch wedi sylwi bod nifer o fadarch o Siapan yn cynnwys y gair “take”  er engraifft Maitake, madarchen fwytadwy arall.

Ar goed brodorol y Dwyrain pell y tyfant yn naturiol, yn benaf ar goed Chinquapins sydd yn perthyn I Goed Derw a Ffawydd Dwyreiniol, a dyna’r rheswm ein bod ni y neu tyfu ar lwch lli a sglodion Derw o Gymru.

Cewch wybod mwy am ein proses tyfu mewn blog arall yn y dyfodol!

Back to blog