Powdr madarch Shiitake, Halen Môn a gwymon – Umami ydi’r “pumed blas” ac mae'n boblogaidd iawn ar draws y byd yn enwedig yn y dwyrain pell. Ceir blas madarch a blas y môr ar ein Umami madarch! Mae’n gweddu unrhyw bryd o fwyd gyda’i wreiddiau yn y môr ac yn ychwanegiad diddorol i nifer o brydau. Ychwanegwch lwyaid go dda o bowdr madarch i stiw bwyd mor, i 'stir-fry' neu fadarch wedi eu ffrio mewn menyn. Hefyd i’w rwbio ar gig eidion neu gig oen cyn eu coginio.