Pecyn deniadol yn cynnwys:
Madarch Wystrys sych – madarch tlws! Maethlon, blasus, hawdd eu trin. Maent yn boblogaidd mewn prydau bwyd Asiaidd ac yn amryddawn. Yn sail i nifer o fwydydd gwahanol ac yn cynnig ei hunain i stir-fry madarch a llysiau eraill.
Powdr madarch Wystrys a pherlysiau (Madarchlys) – perffaith i’r sawl sy’n hoff o flasau Cyfandirol, Mae’r powdr madarch hwn yn wych mewn saws bolognese, wedi ei ysgeintio ar gyw iâr, bysgodyn neu lysiau rhost.